Pam UHOVI?
P'un a ydych eisiau gwella'ch rhagolygon gwaith, datblygu'ch gyrfa, eich gweithlu neu osod her i roi cynnig ar rywbeth newydd, mae gan UHOVI gwrs i chi. Dyma bum rheswm i astudio gydag UHOVI:
1. Cyrsiau ar eich stepen drws
Gydag UHOVI does dim rhaid i chi boeni am deithio ymhell, oherwydd bod dysgu yn digwydd ar hyd a lled y Cymoedd. Cewch astudio am gymhwyster prifysgol yn eich coleg lleol, yn eich gweithle os oes swydd gennych ac mae rhai cyrsiau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol hyd yn oed. Mae hynny'n golygu y cewch wella'ch sgiliau a chymwysterau heb fod angen symud i ffwrdd, ac yn bwysicach fyth, heb lawer iawn o ddyled.
2. Cyfeillgar a chefnogol
Gan fod ein cyrsiau ni yn cael eu cyflwyno mewn lleoliadau cymunedol, gallwch fod yn sicr o gael croeso cynnes a chyfeillgar. Mae colegau yn yr ardal yn llai na phrifysgolion ac mae'n debyg y byddwch yn astudio gyda phobl o'r un meddylfryd - mae'n bosibl y byddwch yn adnabod rhai ohonynt hyd yn oed! Mae tiwtoriaid yn cynnig cymorth ac anogaeth i'ch helpu i gyflawni'ch goliau, ynghyd â chyngor a chyfarwyddyd arbenigol i'ch helpu i oresgyn unrhyw rwystrau.
3. Hyblygrwydd a dewis
Mae cyfleoedd i astudio cyrsiau byr neu gyrsiau hwy, yn amser llawn neu'n rhan-amser, mewn pob math o bynciau. Byddwch yn casglu modiwlau sy'n ffurfio cymhwyster addysg uwch. Mae gan y rhan fwyaf o gyrsiau bwyntiau ?camu i ffwrdd' neu cewch ddewis astudio dros gyfnod hwy. Mae rhai cyrsiau yn cael eu cyflwyno yn ystod y dydd tra bo eraill ar gael gyda'r hwyr neu drwy ddysgu o bell, felly gallwch neilltuo amser i astudio sy'n cyd-fynd â'ch ymrwymiadau gwaith a bywyd. Mae hynny'n golygu y cewch ennill wrth ddysgu.
4. Camu i ddyfodol disgleiriach
Os nad ydych wedi astudio am gyfnod, mae dechrau cwrs gradd yn gallu bod yn brofiad brawychus. Dyma pam rydym yn eich annog i ddysgu un cam ar y tro. Cewch ddechrau gyda modiwlau byr a symud ymlaen i gymhwyster uwch wrth i chi ennill gwybodaeth a hyder. Mae llawer o gyrsiau byr neu gymwysterau byr yn cyfrannu at astudiaeth lefel uchel sy'n ei gwneud yn hawdd parhau gyda'ch taith ddysgu. Mae UHOVI yn datblygu llwybrau clir a llwybrau dilyniant mewn nifer o feysydd pwnc i'ch helpu i gynllunio'ch gyrfa at y dyfodol.
5. Wedi'i gynllunio i fodloni anghenion busnesau lleol
Mae cyrsiau UHOVI wedi'u cynllunio'n arbennig i adlewyrchu anghenion diwydiannau presennol yn y Cymoedd yn ogystal â'r rhai sy'n tyfu, felly mae cymwysterau yn berthnasol i fusnesau lleol. Nod ein cyrsiau yw gwella sgiliau'r gweithlu lleol. Hefyd, gallwn ddarparu pecynnau hyfforddi pwrpasol sy'n fuddiol iawn i gyflogwyr. Cynigiwn amrywiaeth eang o gyrsiau byr achrededig a chymwysterau proffesiynol sy'n addas i amrywiaeth o rolau a lefelau.