Pam Astudio yn UHOVI?
1. Cyrsiau ar eich stepen drws
Gyda UHOVI does dim rhaid i chi boeni am gostau teithio i’r coleg neu’r brifysgol gan fod y dysgu i gyd yn digwydd yma ym Mlaenau’r Cymoedd. Cewch astudio ein cymwysterau yn eich coleg lleol, yn eich gweithle os oes gennych swydd eisoes, ac mae rhai cyrsiau’n cael eu cynnal yn eich cymuned hyd yn oed.
2. Cyfeillgar a chefnogol
Gan fod ein cyrsiau yn cael eu cyflwyno mewn lleoliadau yn eich ardal chi, byddwch yn sicr o gael croeso cynnes a chyfeillgar. Mae colegau yn yr ardal yn llai o ran maint na phrifysgolion a byddwch yn astudio gyda phobl sydd â'r un meddylfryd â chi - efallai y byddwch yn adnabod rhai ohonyn nhw! Bydd tiwtoriaid yn cynnig cymorth ac anogaeth i'ch helpu i gyflawni'ch goliau.
3. Hyblygrwydd a dewis
Mae cyfleoedd i astudio’n amser llawn neu’n rhan-amser mewn pob math o bynciau. Mae rhai o'n cyrsiau yn cael eu dysgu yn ystod y dydd a gallwch astudio rhai gyda'r hwyr, felly gallwch sicrhau cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall myfyrwyr ennill arian tra'n dysgu ac ennill profiad angenrheidiol o'r byd gwaith yr un pryd. Hefyd, mae UHOVI yn cynnig sawl dyddiad dechrau fel bod modd dechrau astudio ar adegau gwahanol yn ystod y flwyddyn.
4. Cam i ddyfodol gwell
Os nad ydych wedi astudio ers amser, gall fod yn brofiad brawychus neidio i mewn i gwrs gradd. Dyna pam rydym yn annog dysgu un cam ar y tro. Cewch ddechrau gyda chredydau cyrsiau byrion wedyn symud i gymhwyster pellach wrth i’ch gwybodaeth a hyder wella. Mae UHOVI yn cynnig llwybrau clir i symud ymlaen i'r cam nesaf mewn nifer o feysydd pwnc.
5. Cynlluniwyd i fodloni anghenion busnesau lleol
Mae cyrsiau UHOVI wedi'u cynllunio i adlewyrchu anghenion diwydiannau presennol Blaenau'r Cymoedd a'r rhai sy'n tyfu. Mae ein rhaglen dysgu yn y gwaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau achrededig byr a chymwysterau proffesiynol sy'n addas i swyddi a lefelau gwahanol. Gellir addasu rhaglenni i sicrhau eu bod mor fuddiol i'ch busnes â phosibl.