Beth Sydd ar Gael?
Bydd myfyrwyr UHOVI yn cael dewis o bortffolio o gyrsiau gyda chymwysterau sy'n cael eu dyfarnu gan Brifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru drwy Brifysgol Cymru Casnewydd. Yn gyntaf, bydd cyrsiau yn y categorïau canlynol:
Cyrsiau Byr
Mae'r cyrsiau byr hyn yn gyflwyniad perffaith i astudio gydag UHOVI a gallant gyfrannu at astudiaethau pellach.
Rhaglen Astudiaethau Sylfaen
Cwrs blwyddyn yw hwn ei astudio cyn y Radd Sylfaen a ddewiswyd i'ch helpu i ddatblygu y wybodaeth, sgiliau a hyder sy'n angenrheidiol i astudio ar lefel addysg uwch.
Graddau Sylfaen
Mae'r rhain yn uchel eu parch gyda chyflogwyr ac maen nhw wedi'u cynllunio i ddarparu sgiliau a gwybodaeth berthnasol i ddiwydiannau presennol yr ardal neu'r rhai sy'n tyfu. Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau Gradd Sylfaen yn llwyddiannus yn cael dewis symud ymlaen i gwrs gradd perthnasol.
Cymwysterau Proffesiynol
Mae amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch sydd yn aml yn cael eu dyfarnu gan gyrff proffesiynol ac yn benodol i lwybrau gyrfa a ddewiswyd.
Dysgu yn y Gwaith
Mae UHOVI yn cynnig rhaglenni hyfforddi a datblygu staff sydd wedi'u cynllunio'n bwrpasol i fodloni anghenion diwydiannau ym Mlaenau'r Cymoedd.
Bydd y meysydd pwnc ar gael yn tyfu ac yn cynnwys:
- Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol
- Technoleg, Peirianneg a Gwyddoniaeth
- Chwaraeon a Hamdden
- Datblygu Busnes
- Datblygu Cymunedol a'r Trydydd Sector
- Gwasanaethau Cyhoeddus, Iechyd ac Addysg
Bydd UHOVI yn parhau i dyfu ac ehangu gyda rhagor o gyrsiau yn dechrau ar adegau gwahanol yn ystod y flwyddyn. Edrychwch ar beth sydd ar gael ar hyn o bryd a dewch yn ôl i edrych am gyrsiau newydd yn y dyfodol.