New course guide out now. Register to receive your copy.

Hoffwn dderbyn rhagor o wybodaeth am UHOVI.

Mae'r meysydd â seren (*) yn orfodol, a rhaid eu cwblhau.


Enter the code shown above:

(Note: If you cannot read the above image, reload the page to generate a new one. Characters are case sensitive.)

Cofrestru ar gyfer gwybodaeth

STEM Success course available again

Following the success of this course earlier in the year, 'STEM Success: Applied Research ...

Darllen mwy

New partnership to help businesses improve networking

UHOVI (Universities Heads of the Valleys Institute) is pleased to be working with 2Win ...

Darllen mwy

Ffioedd a Chymorth

Gall y sgiliau a'r cymwysterau cywir arwain at bob math o gyfleoedd. Yn ogystal â bod yn hwyl ac yn foddhaus, gall dysgu eich helpu i gael swydd neu ddringo'r ysgol yn eich gyrfa ddewisol. Ein nod yn Athrofa Prifysgolion Blaenau'r Cymoedd (UHOVI) yw eich helpu i ddechrau ar eich taith ddysgu er mwyn i chi gyflawni eich uchelgais. Ynghyd â'n sefydliadau partner, byddwn yn rhoi gwybodaeth a chanllawiau i chi a fydd yn eich helpu i fanteisio ar y cymorth ariannol a gynigir.

Beth yw'r gost?

Mae amrywiaeth o grantiau, cynlluniau bwrsariaeth, benthyciadau a chynlluniau tâl ar gael i'ch helpu gyda ffioedd cyrsiau. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol, mae'n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol, a gallai hyn olygu bod cymhorthdal ar gael, neu gallai'ch cwrs fod am ddim hyd yn oed. Bydd y wybodaeth isod yn eich helpu i ddeall y costau perthnasol a'r cymorth ariannol sydd ar gael.

Ffioedd cyrsiau rhan-amser:

Cost y rhan fwyaf o gyrsiau blasu a chyrsiau byr yn UHOVI yw £10.75* fesul credyd. Golyga hynny fod modiwl cwrs byr 10 credyd yn costio £107.50* a bydd Gradd Sylfaen ran-amser lle byddwch yn astudio 60 credyd y flwyddyn yn costio £645* y flwyddyn yn 2011/12. Gallech fod yn gymwys am Gynllun Bwrsariaeth UHOVI neu gymorth ariannol, sy'n golygu y gallai'r gost fod yn llai na hynny - cliciwch yma am ein taflen ar Ffioedd a Chymorth Ariannol i Fyfyrwyr Rhan Amser 2011/12.

Mae cymwysterau proffesiynol yn cael eu prisio'n uniongyrchol.

Ffioedd cyrsiau amser llawn:

Mae pris cyrsiau amser llawn yn unol â'r gyfradd safonol, sef £3,375 y flwyddyn. Er hynny, mae cymorth ariannol ar gael - cliciwch yma am ein taflen ar Ffioedd a Chymorth Ariannol i Fyfyrwyr Rhan Amser 2011/12..

*Bydd ffioedd yn amrywio 10% gan ddibynnu ar y partner cyflwyno. Gwiriwch yr union gostau cyn cyflwyno'ch cais.

Pa gymorth ariannol sydd ar gael?

Yn achos myfyrwyr amser llawn, mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i'ch helpu gyda'r costau, ynghyd â Benthyciad Cynhaliaeth a asesir trwy brawf modd a/neu Grant Dysgu'r Cynulliad neu Grant Cymorth Myfyrwyr i'ch helpu gyda'ch costau byw. Does dim rhaid ad-dalu unrhyw fenthyciadau a gewch yn ystod eich astudiaethau nes i chi gwblhau'r cwrs a'ch bod yn ennill o leiaf £15,000 y flwyddyn (os ydych yn gweithio yn y DU). Mae rhagor o wybodaeth am fenthyciadau, yn cynnwys manylion am gyfraddau llog ac ad-daliadau i'w cael yn http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Yn achos myfyrwyr rhan-amser, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am Grant Ffioedd a asesir trwy brawf modd i'ch helpu gyda'ch ffioedd dysgu a Grant Cyrsiau i helpu tuag at gostau astudio.

Mae hefyd gymorth ariannol ychwanegol a asesir drwy brawf modd a allai fod ar gael i fyfyrwyr sydd â phlant neu oedolion sy'n dibynnu arnynt yn ariannol. Gallai hyn ddarparu grant i helpu gyda chostau byw a gofal plant, er enghraifft.

Gallai myfyrwyr ag anableddau gael help gyda chostau sy'n gysylltiedig â'u cwrs sy'n codi o ganlyniad i'w hanabledd. Mae'r cymorth ariannol hwn yn cael ei alw'n Lwfans Myfyrwyr Anabl ac nid yw'n cael ei asesu drwy brawf modd.

Am ragor o wybodaeth ar y cymorth ariannol sydd gael, lawrlwythwch ein taflenni sy'n cynnwys manylion o'r ffioedd a'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr rhan amser neu llawn amser. Fel arall, gwelwch Cyllid Myfyrwyr Cymru http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk am wybodaeth neu i wneud cais, neu mynnwch sgwrs â'ch awdurdod lleol. 

Ffoniwch ni ar 0800 1223 220 am ragor o fanylion neu e-bost studentsupport@uhovi.ac.uk.

New course guide out now. Register to receive your copy.

Register here

Studying may cost less than you think. Find out about the financial support available.

Find out more

See our latest range of bite-sized courses starting in the Autumn.

Find out more

Blaenau Gwent Learning Zone

Opening September 2012, find out more about this state-of-the-art facility.