Lleoliadau
Dysgu'n lleol yw amcan UHOVI. Rydyn ni'n cynnig amrediad o gyrsiau addysg uwch ar hyd a lled Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen. Defnyddiwch y teclyn chwilio pellach i ddarganfod yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi. Rydyn ni'n datblygu cyrsiau newydd, felly os na ddewch o hyd i gwrs addas ar hyn o bryd, cofiwch edrych eto yn y dyfodol neu ffoniwch ni os oes gennych faes diddordeb penodol.
Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth gyda Cholegau Addysg Bellach ac mae nifer o'n Graddau Sylfaen a Chymwysterau Proffesiynol yn cael eu darparu ar eu safleoedd nhw. Darllenwch fwy am ein partneriaid yma.
Mae UHOVI hefyd yn cynnig cyfleoedd dysgu mewn lleoliadau cymunedol, yn enwedig cyrsiau byr. Mae'r nifer o leoliadau yn cynyddu a chyrsiau newydd yn cael eu hychwanegu'n gyson. Mae manylion am y cyrsiau sydd ar gael ar hyn o bryd ar gael drwy ymweld â'r adran cyrsiau byr neu ddefnyddiwch y teclyn chwilio pellach.
Yn ogystal â'r amrediad o gyrsiau sydd eisoes ar amserlenni colegau lleol a lleoliadau cymunedol, rydyn ni hefyd yn cynnig pecynnau dysgu wedi eu teilwrio'n benodol i wahanol weithleoedd. Darllenwch am yr hyn y gall UHOVI ei gynnig i'ch busnes chi.
Cyfleusterau dysgu newydd:
Mae nifer o ddatblygiadau newydd yn digwydd ar hyd a lled rhanbarth y Cymoedd. Byddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i gynnig cyrsiau UHOVI ar y safleoedd newydd gwych hyn. Bydd manylion yn cael eu rhyddhau cyn bo hir neu gallwch gofrestru yma i dderbyn canllaw cyrsiau 2012/13.
I gael rhagor o wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am y cyfleusterau dysgu gwych hyn, cliciwch ar y dolenni isod.
Parth Dysgu Blaenau Gwent - yn agor Medi 2012
Ardal Ddysgu Merthyr - yn agor Medi 2013
Campws Dysgu Taf Elai - yn agor Medi 2012