Faint yw cost cyrsiau UHOVI?
Ffioedd cyrsiau amser llawn yn y flwyddyn academaidd 2011/12 yw £3,375.
Ffioedd cyrsiau rhan-amser yn y flwyddyn academaidd 2011/12 yw £10.75* fesul credyd.
*Mae costau'n amrywio 10% gan ddibynnu ar y partner sy'n cynnal y cwrs. Gwiriwch yr union gostau cyn cyflwyno'ch cais.
Sut mae ymgeisio neu ailymgeisio am Gyllid Myfyrwyr?
Rhaid i chi lenwi:
- Ffurflen PN1 (ymgeiswyr newydd) neu
- Ffurflen PR1 (ymgeiswyr sy'n dychwelyd) neu
- Ffurflen PTG1 (ymgeiswyr rhan-amser)
Cewch gwblhau'r ffurflenni hyn ar-lein neu eu lawrlwytho o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru, neu gellir ofyn am ffurflen gais drwy ffonio 0845 602 8845 (dydd Llun i ddydd Gwener 8am - 8pm a dydd Sadwrn 9am - 1pm).
Wedyn, caiff eich cais ei asesu gan eich Awdurdod Lleol. Os oes gennych ymholiad am eich cais unwaith i chi ei gyflwyno, cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn uniongyrchol. Mae offeryn 'Canfod eich Awdurdod Lleol' ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Pryd dylwn i wneud cais am Gyllid Myfyrwyr?
Dylech wneud cais am gyllid myfyrwyr mor fuan â phosibl, er mwyn i chi gael gwybod yn gynnar beth mae gennych hawl iddo.
Does dim angen aros nes bod gennych lle wedi'i gadarnhau ar gwrs cyn ymgeisio, dim ond dyfynnu'r cwrs byddwch fwyaf tebygol o'i fynychu sydd ei angen. Os yw'ch cwrs yn newid ar ôl gwneud cais, rhowch wybod i'ch Awdurdod Lleol/Cyllid Myfyrwyr Cymru cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn penderfynu bod angen cymorth ariannol arnoch ar ôl i'ch cwrs ddechrau, cewch ymgeisio am help hyd at 9 mis ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, ond efallai bydd angen i chi dalu'ch ffioedd dysgu tra byddwch yn ymgeisio am gyllid.
Faint o amser a gymer i brosesu fy nghais?
Os yw'ch ffurflen gais a thystiolaeth ategol i gyd yn iawn, dylai'ch ffurflen gais gael ei phrosesu o fewn 6 wythnos. Bydd eich Awdurdod Lleol yn cysylltu â chi os oes unrhyw wybodaeth ar goll.
Beth yw teitl fy nghwrs?
Dyma union deitl y cwrs byddwch yn ei astudio.
Beth yw blwyddyn y cwrs?
Dyma flwyddyn y cwrs rydych yn ymgeisio amdani, er enghraifft os ydych wedi pasio'ch Blwyddyn Gyntaf yn llwyddiannus, bydd angen ticio'r blwch 'Ail Flwyddyn' (gan mai hon yw'r flwyddyn o astudio rydych yn ymgeisio amdani).
Pa ffigwr sydd angen i mi ei ddefnyddio ar gyfer fy manylion incwm?
Bydd rhaid i chi nodi'r cyfanswm gros a enillwyd, hynny yw cyn unrhyw ddidyniadau fel trethi ac ati.
Mae rhai o'm manylion wedi newid ers i mi ddechrau fy nghwrs. Beth ddylwn i ei wneud?
Os yw rhai o'ch manylion, fel eich enw, cyfeiriad neu gwrs ac ati wedi newid ers i chi wneud cais am gyllid, cewch newid y rhain drwy eich cyfrif ar-lein neu drwy gwblhau ffurflen CO1 a'i dychwelyd at eich Awdurdod Lleol. Ewch i Ffurflenni a chanllawiau 2011/12 a chwblhau'r ffurflen CO1.
Beth yw fy Rhif Cymorth Myfyrwyr?
Mae eich Rhif Cymorth Myfyrwyr ar bob gohebiaeth sydd gennych gan eich Awdurdod Lleol, Cyllid Myfyrwyr Cymru a/neu'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Dyw fy Menthyciad Myfyrwyr/Grant ddim wedi cael ei dalu i mewn i'm cyfrif banc. Beth ddylwn i ei wneud?
Dylech ffonio Cyllid Myfyrwyr Cymru ar 0845 602 8845 cyn gynted â phosibl.
Sut mae benthyciadau ffioedd dysgu yn cael eu talu?
Mae'r benthyciad ffioedd dysgu yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r Brifysgol neu'r coleg ar eich rhan.
Sut mae cael gwybod mwy neu wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl?
Pan fyddwch yn ymgeisio am gymorth myfyrwyr, bydd angen i chi nodi ar y ffurflen eich bod eisiau cael ffurflen gais DSA a bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn anfon y ffurflen briodol atoch. Efallai byddwch eisiau trafod hyn ymhellach gyda Chynghorydd yn y sefydliad lle rydych eisiau astudio.